Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15 Mai 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(64)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Trawsnewid—Cyflawni ar y Cyd (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 (15 mins) 

NDM4983 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2012.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012
Memorandwm Esboniadol – (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - dim pwyntiau adrodd

 

</AI4>

<AI5>

5. Dadl ar Law yn Llaw at Iechyd – adroddiad cynnydd chwe mis (60 munud) 

NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  

Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd”.

Mae “Law yn Llaw at Iechyd” ar gael ar y ddolen hon:

http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/together/?lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

“ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a

b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i ad-drefnu ysbytai.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod agenda Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn cynnwys cynlluniau i leihau nifer y safleoedd ysbytai sy’n darparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24/7 o dan law meddyg ymgynghorol.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn erbyn israddio ysbytai lleol a gwasanaethau iechyd ar draws Cymru.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn lleol.

</AI5>

<AI6>

6. Dadl ar bolisi Teithio Byw Llywodraeth Cymru (60 munud) 

NDM4982 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  

Yn ystyried polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi, gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon ty gwydr.

Gellir gweld polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru trwy ddilyn y ddolen isod:

http://wales.gov.uk/topics/transport/integrated/walkingcycling/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrian De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio doethach.

Mae Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar gael drwy fynd i:

http://cymru.gov.uk/topics/environmentcountryside/climatechange/commission/reports/commissionfirstannual/?lang=cy

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio byw ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol hyfyw.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a beicwyr.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 16 Mai 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>